You are here:

Scheduled dates

, 19:00:00 - 20:00:00 Add to calendar

Eisiau amrywio'r testunau chi'n cyflwyno i blant a phobl ifanc, ond ddim yn siŵr ble i ddod o hyd iddynt? Wedi'ch ysbrydoli gan fudiadau fel Mae Bywydau Du o Bwys ac Amrywiaethu'r Cwricwlwm? Cael trafferth ffeindio testunau am yr oedran cywir a lefel darllen o fewn genres poblogaidd? Bydd y sesiynau rhyngweithiol yma yn eich galluogi i ddefnyddio adnoddau ar-lein, am ddim, i ddod o hyd i destunau amrywiaethol ar gyfer plant a phobl ifanc. Efallai eich bod yn addysgwr, rhiant, neu lyfrgellydd, neu efallai eich bod yn chwilio am ysbrydoliaeth darllen eich hun. Cyn y sesiwn, bydd yr holl gyfranogwyr cofrestredig yn derbyn e-bost â llyfryn PDF yn eich cyflwyno i adnoddau er mwyn dod o hyd i destunau amrywiaethol. Bydd y digwyddiad ei hun yn cynnwys arddangosiad ar-lein o’r adnoddau, ynghyd â chyfle i chi ofyn cwestiynau, rhannu adborth ar eich profiad o ddefnyddio nhw hyd at hyn, ac i gyfnewid syniadau defnyddiol gyda chyfranogwyr eraill. 

Please note: this event will be held in Welsh. A version of this event will take place in English, focusing on discovering English language texts, on  12 November from 19:00-20:00.